Churnalism

Mae churnalism yn air Saesneg, ac yn derm sarhaus am fath o newyddiaduraeth ble mae datganiadau i’r wasg yn cael eu defnyddio mewn papurau newydd a chyfryngau eraill yn lle adroddiadau gan ohebwyr.

I gyfryngwyr, mae ail-ddefnyddio datganiadau a lluniau a derbyniwyd oddi wrth swyddogion ac asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus yn llawer llai o waith, ac felly’n rhatach nag anfon gohebwyr a ffotograffwyr i ddigwyddiadau i'w hadrodd.

Fel canlyniad mae cynnydd wedi bod o ddeunydd hyrwyddo gan gwmnïau a sefydliadau yn ymddangos yn ymddangos yn y wasg a chyfryngau eraill heb i’r ffeithiau cael eu harchwilio i sicrhau eu bod yn gywir neu'n dyfynnu safbwyntiau gwrthwynebus.

Mae ailddefnydd o ddatganiadau i’r wasg wedi cynyddu wrth i incwm papurau newydd leihau wrth i hysbysebwyr a phrynwyr troi i gyfyngau cymdeithasol digidol. Fel canlyniad mae nifer y staff a gyflogwyd mewn ystafelloedd newyddion wedi crebachu.

Mae gohebydd y BBC Waseem Zakir yn cael ei gydnabod fel y person a fathodd y gair churnalism [1][2]

  1. Jackson, Sally (5 June 2008), "Fearing the rise of 'churnalism'", The Australian, http://www.theaustralian.news.com.au/story/0,,23811929-7582,00.html?from=public_rss
  2. https://www.theguardian.com/science/the-lay-scientist/2011/apr/25/1

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search